Raring2go! north wales

2 raring2go .co.uk 16 and beasties in their natural environment. Peel back the prickly shell, make a hole through the middle, thread with string and let the battle commence! raring2go .co.uk 4 Raring2go! BETH SYDD YMLAEN / WHATS ON Mae geogelcio yn hobi gwych i ymddiddori ynddo. Mae'n greadigol, cymdeithasol ac yn darparu awyr iach y mae mawr ei angen! Os ydych chi'n anghyfarwydd â beth yn union yw geogelcio, bydd fy nghanllaw yn rhoi i chi popeth y mae angen i chi ei wybod. Tra bod geogelcio ar eich pen eich hun yn wobrwyol, mae cael y plant i gymryd rhan yn hyd yn oed gwell - a bydd yn eu helpu i ddatblygu sgiliau, na fyddant, o bosibl, yn eu cael drwy hobïau eraill. Dyma pam y dylai geogelcio fod ar eich rhestr pan mae hi'n dod i weithgareddau i'r teulu i'w gwneud ar benwythnos. Awyr Iach Yn oes Xboxes, iPhones a Netflix, gall cael y plant i fentro allan fod yn her heb ei thebyg. Mae geogelcio yn weithgaredd awyr agored hwyliog y gellir ei wneud ymhob tywydd (er y byddem yn argymell mynd â dillad }ÜÀ̅‡``źÀt®] >V “>i¿˜ vvœÀ`` LiÀvv>ˆÌ…œ }>i Þ «>˜Ì ˆ fentro allan. Yn ogystal, golyga eich bod yn llawn haeddu eich nos Sadwrn o flaen y teledu! Ymarfer Corff Da Gyda gordewdra ymhlith plant yn broblem fawr yn y DU, mae cael eich plant i symud yn bwysicach nag erioed, ac mae geogelcio yn hobi sy'n egnïol yn naturiol. Cerdded yw un o'r ffyrdd gorau o gadw'n heini, tra bydd yr ymdeimlad boddhaus a gewch pan fyddwch chi a'r plant yn dod o hyd i'r geogelc yn gwneud iddo beidio â theimlo fel ymarfer corff o gwbl! Rhan o Gymuned Mae datblygu sgiliau cymdeithasol yn hynod bwysig i blant ac mae dod yn rhan o'r gymuned geogelcio yn ffordd wych o wneud hyn. Er nad ydym yn annog gadael i'ch plant sgwrsio ag eraill heb oruchwyliaeth, mae mynychu digwyddiadau neu hyd yn oed ysgrifennu nodiadau i'w rhoi yn y geogelc yn ffordd dda o gael eich plant i ymwneud â chymuned o bobl o'r un anian, gan eu helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Annog Rhannu Mae trosglwyddo tlysau, teganau ac eitemau bychain yn ffordd dda o gael eich plant i ddatblygu synnwyr o rannu. Bydd eich plant yn dysgu nad ydynt angen bob tegan ac yn wir, efallai y gall rhywun arall eu mwynhau fwy! Bydd trosglwyddo eitemau nad ydynt eu hangen a chasglu eitemau y maent yn eu gweld yn ddiddorol, yn cael eich plant mewn hwyliau i rannu - yn ogystal, efallai y bydd yn arwain atoch yn cael gwared ar rhai o'r eitemau diangen hynny yn eich cartref! Cost Effeithiol Nid oes rhaid i drefnu gweithgareddau i'r plant i'w gwneud ar benwythnos gostio ffortiwn. Mae geogelcio yn hobi hwyliog, sy'n costio'r nesaf peth i ddim, ac nid yw'n gofyn am offer arbennig nag aelodaeth ddrud. Os ydych chi eisiau mwynhau'r nodweddion premiwm mae cost isel, ond nid yw hyn yn angenrheidiol yn enwedig os Þ`ÞV…V…ˆ¿˜ ˜iÜÞ`` ˆ¿À…œ Li̅°Ɓ Meddwl am yr Amgylchedd Mae cael cenedlaethau'r dyfodol i ymddiddori yn yr amgylchedd yn hanfodol. Er bod ysgolion yn aml yn cynnal dosbarthiadau ar gynhesu byd-eang a llygredd, un o'r ffyrdd gorau o gael eich plant i ymddiddori yn yr amgylchedd yw eu cael i fentro allan iddo! Bydd gweld gwahanol diroedd, nodweddion naturiol a chynefinoedd lleol yn cael eich plant i werthfawrogi byd natur ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth yn ddiweddarach mewn bywyd. Crwydro gyda'r plant yr hydref hwn #MentroAllan

RkJQdWJsaXNoZXIy NDA0NjA=